Uwchben Medi, mae byncws HYB (Heol y Bont) ac yng nhgefn yr adeilad mae maes parcio preifat i chwech o geir. Wedi’i leoli o fewn eiliadau i dafarndai a bwytai y dre, a nepell o’r siop beics. Mae HYB yn cefnu ar Y Marian a’r afon Wnion, lle mae llwybr beicio’r Mawddach yn cychwyn i lawr am y Bermo. Mae ddeng munud yn y car o Ganolfan Coed y Brenin.
Yn dyddio’n n’ôl i 1780, mae’r adeilad yn llawn cymeriad yn cynnwys lloriau a distiau derw a phaneli. Mae yma bedair ystafell wely, efo dau ‘bync’ ymhob un. Gallwn felly gysgu partion hyd at 16 mewn nifer. Ymhob llofft mae adnoddau cegin yn cynnwys tegell, tostiwr, oergell a ‘hob’. Mae tair ystafell molchi fodern yma, yn cynnwys un ‘en-suite’...
Ar y llawr gwaelod mae lolfa fechan gysurus. Mae posib defnyddio gliniaduron ond i chi holi..
Cost - £18.00 y noson y person – nid ydym yn darparu dillad gwlau, bydd angen i chi ddod a sach gysgu ayb efo chi
Mae SimpleViewer angen JavaScript a Flash Player.
Cerwch nôl Flash